Croeso i Ysgol Gymraeg Mornant!

Dwy iaith – Dwy waith y dewis a’r cyfle
Two languages – Twice the choice and opportunity

Carwn fanteisio ar y cyfle hwn i rannu hefo chi ein llawlyfr diweddaraf ar gyfer Ysgol Gymraeg Mornant, a’m gobaith yw y bydd eich perthynas a’r Ysgol, drwy eich plant, yn brofiad hapus a gwerthfawr. Ar y wefan hon, cewch wybodaeth am Ysgol Gymraeg Mornant,ei diben a’i hamcanion, ei chwricwlwm, polisiau ac amryw weithgareddau. Cyflwynaf ef i chwi gan hyderu y bydd yn ganllaw defnyddiol.

Ysgol Gynradd Gymraeg o dan nawdd yr Awdurdod Addysg Lleol yw Ysgol Gymraeg Mornant, sydd yn darparu addysg gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd ar gyfer tua 67 o ddisgyblion o 3 hyd 11 oed.

Yr ydym yn falch ein bod yn trosglwyddo disgyblion 11 oed i Ysgol Maes Garmon, yr ysgol Uwchradd Gymraeg leol yn yr Wyddgrug. Gwelwn hyn fel parhad yn natblygiad ieithyddol ein disgyblion ac mae cydberthynas glos, adeiladol yn bodoli rhwng y ddwy ysgol. Mantais fawr mewn bywyd yw cael rhugldeb
dwyieithrwydd ac ymfalchiwn ein bod yn medru darparu addysg naturiol Gymreig o 3oed hyd at 18oed drwy ein perthynas ag Ysgol Maes Garmon.

Mrs Bethan Jones
Pennaeth


May I take this opportunity to welcome you as new parents to Ysgol Gymraeg Mornant. I hope that your association with the school through your children will be a happy and rewarding experience. The Website you are about to read provides information about Ysgol Gymraeg Mornant, its aims and objectives, its curriculum, its policies and various activities. I hope that you will find it a useful introduction to the School.

Ysgol Gymraeg Mornant is a Welsh Medium Primary School within the Local Education Authority, at present accommodating approximately 67 pupils in the 3 – 11 age range.

We are proud of our links with our local Welsh medium Secondary school, Ysgol Maes Garmon, in Mold. We see this continuation of Welsh medium education as being an integral part of the standard in service that we as a school offer, and we are proud of the productive relationship that exists between our schools. We believe being fluently bilingual is an enormous advantage in life and we’re extremely proud that we’re able to play our part in the provision of Welsh medium education from 3 years to 18 years in Flintshire through our partnership with Ysgol Maes Garmon.

Mrs Bethan Jones
Headteacher


Arhoswch wedi'i Ddiweddaru / Stay updated