Croeso! Cewch weld hanes a chynnydd dosbarth Elwy yn fan hyn. Cadwch lygad i weld beth mae’r disgyblion yn ei ddysgu, beth maen nhw’n ei greu a’r gweithgareddau hwyliog sydd yn mynd ymlaen gyda Mr. Sam Pritchard, yr athro. Cofiwch, cewch gadw llygad ar gynnydd eich plentyn gan bori drwy eich cyfrif Seesaw.
Welcome! Here, you’ll be able to see what the pupils have engaged with and how the pupils are progressing with their learning, through fun filled activities and what they’ve created under the guidence of their teacher, Mr. Sam Pritchard. Remember to keep an eye on your child’s progress by visiting the Seesaw app.
Thema’r tymor yma yw/This term’s theme is – Hinsawdd/Climate
Aeth Bl.3 a 4 i’r ŵyl chwaraeon yng Nglannau Dyfrdwy heddiw. Cafodd y disgyblion gyfle i samplu gwahanol fathau o chwaraeon. Er y glaw mawr, cafodd y disgyblion gyfle i ymarfer llawer o sgiliau amrywiol.
Year 3 and 4 to the sports festival in Deeside today. Pupils had a chance to sample different kind of sports. Despite the rain, the pupils practiced a range of skills.
Cafodd CA2 fore arbennig o dda gyda Catrin o Dwr Cymru yn astudio sut mae’r rhwydwaith dwr yn gweithio yma yng Nghymru. Cafodd y disgyblion wedyn gyfle i adeiladu rhwydwaith dwr eu hunain er mwyn darparu dŵr i wahanol adeiladau o fewn eu trefi nhw.
KS2 had an excellent morning with Catrin from Welsh Water, studying how water networks work in Wales. The pupils then had a chance to build their very own water network to see weather they could provide water to their buildings on their maps.
Cyn y gwyliau, roedden ni’n ffodus iawn o gael Steve Tootell fel ymwelydd i’r ysgol. Fe gynhaliodd weithdy clai gyda’r disgyblion. Y pwrpas? I greu cwpan i ddathlu beth oedd yn bwysig i’r disgyblion. Diolch yn fawr iawn, Steve am y profiad bythgofiadwy hwn!
Before the holidays, we were fortunate enough to have Steve Tootell as a guest to our school. He conducted a pottery workshop with the pupils. The purpose? To create a trophy to celebrate what was important to the pupils. Thank you, Steve for this unforgettable experience.
https://www.stevetootellpottery.com/