Ein Hanes Ni/Our History

Cefndir Ysgol Gymraeg Mornant

Lleolir Ysgol Gymraeg Mornant yng ngogledd-orllewin Sir y Fflint mewn lle o’r enw Picton, ger pentref Pen y Ffordd, Treffynnon.   

Ysgol fechan wledig ydy Ysgol Gymraeg Mornant gyda 70 o blant ar hyn o bryd.  Mae’r ysgol yn edrych allan dros yr afon Dyfrdwy tuag at Lerpwl ac mae’r lleoliad yn hyfryd ar ddiwrnod o haf.  Yn y Gaeaf, gall hi fod yn stormus ac yn wyntog iawn gyda’r gwynt yn hyrddio o’r môr. 

Ar ddechrau’r 50au, roedd ysgol fabanod Saesneg yn Ffynnongroyw, ac ynddi, nifer o Gymry Cymraeg bach eu hiaith. Yn 1954 fe sefydlwyd Ysgol Gymraeg yn ysgol fabanod y pentref, dan arweiniad Rhys Jones.

Ar y pryd, roedd 72 o ddisgyblion ar y gofrestr, a mabwysiadwyd yr enw ‘Ysgol Mornant’ yn ddiweddarach. Yn 1971, daeth adeilad ysgol yn rhydd ym mhentref Gwespyr, Picton, rhyw ddwy filltir i ffwrdd, ac yma, mae’r ysgol wedi ffynnu ers hynny.  

Fe ddathlodd yr ysgol 70 mlynedd o addysg Gymraeg yn 2023 gyda chyngerdd fawreddog yn eglwys Ffynnongroyw gyda chôr meibion Dinbych a’r Cylch. Mi berfformiwyd ein disgyblion gyfansoddiad gan yr hwyr, Rhys Jones, y prifathro cyntaf.

Daw’r plant i’r ysgol o ddalgylch eang iawn – rhai plant o ffermydd ac eraill o bentrefi Trelawnyd, Gwespyr, Trelogan, Pen y Ffordd, Gronant, Tyn y Morfa, Ffynnongroyw, Mostyn a Llanasa. 

Mae gan yr ysgol natur deuluol a chartrefol  iawn, gyda’r rhieni a’r staff yn cydweithio yn agos, er mwyn sicrhau’r gorau’r i’r disgyblion. Mae pob un disgybl yn bwysig iawn yn Ysgol Gymraeg Mornant ac yn derbyn sylw personol yn y dosbarthiadau.

The Backgroud Behind Ysgol Gymraeg Mornant

Ysgol Gymraeg Mornant is located in the north-east corner of Flintshire in a village called Picton, near Pen y Ffordd, Holywell.   

Ysgol Gymraeg Mornant is a small, rural school with 70 pupils registered at the moment. The school looks out over the River Dee towards Liverpool and is situated at a beautiful location, which, on a summer’s day, the views are simply breath taking . During the winter, the area is exposed and is very stormy and extremely windy with winds blustering in from the sea. 

In the early 50s, the English medium infant’s school at Ffynnongroyw included a number of young Welsh-speakers. In 1954 a Welsh medium primary school was opened in the infant’s school, under the leadership of Rhys Jones.

There were 72 pupils on the register, and the name ‘Ysgol Mornant’ was later adopted. In 1971 a new school building became available in the village of Gwespyr, Picton, about two miles away, and the school has flourished here ever since.   

The school recently celebrated 70 years of Welsh education in 2023, where, to mark the occasion, a concert was held at Ffynnongroyw Church along with Denbigh and District Male Voice Choir, where the pupils joined in singing Rhys Jones’ – “O Gymru” – One of the most famous pieces composed by the late Rhys Jones.

Pupils attending reside in a large catchment area – Pupils from local farms and others from the villages of Trelawnyd, Gwespyr, Trelogan, Penyffordd, Gronant, Tyn y Morfa, Ffynnongroyw, Mostyn and  Llanasa.

The school has a homely, familial nature, with staff and parents working together closely to ensure the best outcomes for the pupils. Every pupil is important at Ysgol Gymraeg Mornant, and all receive personal attention due to the nature of the classes.

Arhoswch wedi'i Ddiweddaru / Stay updated

Add our website to your home screen!

ADD
×
PWA Add to Home Icon

Click the PWA Add to Home Banner icon on your browser bar, choose Add to Home Screen. Then click the new icon.

×