Cefndir Ysgol / School Background

English Version

Cefndir Ysgol Mornant

Lleolir Ysgol Gymraeg Mornant yng ngogledd orllewin Sir y Fflint mewn lle o’r enw Picton, ger pentref Pen y Ffordd, Treffynnon.   

Ysgol  fechan wledig ydy Ysgol  Mornant gyda 50 o blant ar hyn o bryd.  Mae’r ysgol yn edrych allan dros yr  afon Ddyfrdwy tuag at Lerpwl ac mae’r lleoliad yn hyfryd ar ddiwrnod o haf.  Yn y Gaeaf gall hi fod yn stormus ac yn wyntog iawn gyda’r gwynt yn hyrddio o’r môr. 

Ar ddechrau’r 50au, yr oedd ysgol fabanod Saesneg yn Ffynnongroyw ac ynddi nifer o Gymry Cymraeg bach eu hiaith. Yn 1954 fe sefydlwyd Ysgol Gymraeg yn ysgol fabanod y pentref, dan arweiniad Rhys Jones. Yr oedd 72 o ddisgyblion ar y gofrestr, a mabwysiadwyd yr enw Ysgol Mornant yn ddiweddarach. Yn 1971, daeth adeilad ysgol yn rhydd ym mhentref Gwespyr (Picton) rhyw ddwy filltir i ffwrdd, ac yma mae’r ysgol wedi ffynnu ers hynny.  

Mae’r ysgol wedi dathlu trigain mlynedd o addysg Gymraeg yn 2013,  a daw’r plant i’r ysgol o ardal eang iawn – rhai plant ffermydd ac eraill o bentrefi Trelawnyd,  Gwespyr, Trelogan,  Pen y Ffordd, Gronant, Tyn y Morfa, Ffynnongroyw, Mostyn a  Llanasa.  Mae’r disgyblion yn cael eu cludo yma ar fws neu dacsi.  Mae’r ysgol gyda natur deuluol a chartrefol  iawn gyda’r rhieni a’r staff yn cydweithio yn agos iawn  i sicrhau’r gorau’r i’r disgyblion.   Mae pob un disgybl yn bwysig iawn  yn Ysgol Mornant ac yn derbyn sylw personol oherwydd natur y dosbarthiadau  – nifer fechan o blant mewn tri dosbarth gyda chefnogaeth staff addysgu a chymorthyddion profiadol.​

Ysgol Mornant’s Background

Ysgol Gymraeg Mornant is located in the north east corner of Flintshire on a village called Picton, near Pen y Ffordd, Holywell.   

Mornant is a small rural school with 50 pupils registered at the moment. The school looks out over the Dee River towards Liverpool and is a beautiful location on a summer’s day. During the winter it can be very stormy and extremely windy with winds blustering in from the sea. 

In the early 50s the English medium infant’s school at Ffynnongroyw included a number of young Welsh-speakers. In 1954 a Welsh medium primary school was opened in the village, under the leadership of Rhys Jones. There were 72 pupils on the register, and the name Ysgol Mornant was later adopted. In 1971 a new school building became empty in the village of Gwespyr (Picton) about two miles away, and the school has flourished here ever since.   

The school recently celebrated sixty years of Welsh education in 2013, with the children attending from a wide area – with children from local farms and others from the villages of Trelawnyd,  Gwespyr, Trelogan,  Penyffordd, Gronant, Tyn y Morfa, Ffynnongroyw, Penyffordd, Mostyn and  Llanasa.  The pupils commute to school via bus and taxi. The school has a homely, family nature with staff and parents working together closely to ensure the best outcomes for the pupils. Every pupil is important to Ysgol Mornant and receives personal attention due to the nature of the classes – small numbers of children in three classrooms, with the support of staff and experiences assistants. 

Arhoswch wedi'i Ddiweddaru / Stay updated